WCVA | Supporting Wales' third sector
 Cefnogi'r trydydd sector yng Nghymru 

 

 

 


Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Menter a Busnes

Ymchwiliad i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020

Tystiolaeth gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru – EUO 08

Ymchwiliad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gyfleoedd cyllido yr UE 2014-2020

 

Ymateb gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)

Ionawr 2014

 

1.  Cefndir

 

1.1             Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn cynrychioli mudiadau gwirfoddol, gwirfoddolwyr a chymunedau, ac yn ymgyrchu drostynt.

 

1.2             Yn ôl Adnodd Ystadegol Trydydd Sector 2013 WCVA, mae 33,000 o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru, gan gynnwys 9,221 o elusennau cofrestredig.  Mae gan y sector incwm gwerth £1.6bn, ac amcangyfrifir y daw 3% o hwnnw o ffynonellau cyllido yr UE.

 

1.3             Mae WCVA yn croesawu’r cyfle i ymateb i’r Ymchwiliad hwn, er mwyn cyfleu profiadau WCVA ei hun o ffrydiau cyllido amrywiol yr UE (y tu hwnt i Gronfeydd Strwythurol yr UE), ac adlewyrchu rhai o weithgareddau cydweithwyr yn ein sector.  Cynhaliwyd arolwg byr arlein gyda mudiadau trydydd sector y gwyddid eu bod wedi ymwneud â chyllid yr UE, er mwyn cyfrannu at yr ymateb hwn.

 

2.  Ers faint mae’ch mudiad wedi ymgysylltu’n frwd â gwaith yr UE?

 

2.1             Mae WCVA wedi ymgysylltu’n frwd â chyllid yr UE ers 2000, gan ymgysylltu’n bennaf â Chronfeydd Strwythurol yr UE, ond rydym hefyd wedi cynnal y prosiectau canlynol:

 

Teitl y prosiect

Blwyddyn

Cronfa’r UE

Partneriaid yn yr UE

Cymorth ar gyfer mentrau dinesig cymunedol ym Melarws

2002 a 2005

TACIS a KHF

Belarws

Arian Cymunedol ar Waith – WCVA yw’r partner arweiniol

2012-2014

Gogledd Orllewin Ewrop (Interreg)

Y Deyrnas Unedig, Ffrainc, Gwlad Belg, Yr Iseldiroedd

Darparwr micro-gredyd

2013

JASMINE (Joint Action to Support Microfinance Institutions in Europe)

 

 

2.2             Yn ogystal WCVA yw’r partner arweiniol wrth gydlynu cais i EuropeAid am gyllid dan y cais am gynigion wedi’i seilio ar Flwyddyn Ewropeaidd Datblygu yn 2015 ar gyfer “Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o faterion datblygu a hyrwyddo addysg datblygu yn yr UE”, gan weithio gyda phartneriaid o Ffrainc, Sweden, Denmarc, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, yr Eidal, Gwlad Groeg, Rwmania, Bwlgaria, Armenia, ac Ukrain.  Mae WCVA hefyd wedi gweithio gyda phartneriaid yn Lloegr i gynnal hyfforddiant er mwyn meithrin gallu sector cyrff anllywodraethol yn Slofenia, Slofacia a Gwlad Pwyl.

 

2.3             Mae Cydlynydd Busnes a Phartneriaethau Ewropeaidd WCVA yn aelod o’r Pwyllgor Monitro Rhaglenni ar gyfer Rhaglen Gydweithredu Trawsffiniol Iwerddon-Cymru 2007-2013 a Ffrwd Gwaith Cydweithredu Tiriogaethol WEFO ar gyfer 2014-2020. 

 

3.  I ba raddau rydych wedi gweithio gyda’r un partneriaid yng Nghymru, a thu hwnt?  A ydych wedi llunio cysylltiadau hirdymor â rhannau eraill o’r UE?

 

3.1             Mae WCVA wedi cydweithio sawl gwaith â Rhwydwaith Ewrop Glannau Mersi ac mae cysylltiadau wedi’u cynnal rhwng WCVA a chyrff anllywodraethol Belarws ers 2002.

 

3.2             Mae ymatebwyr o’r trydydd sector i arolwg arlein WCVA wedi gweithio gyda phartneriaid yn yr UE yn bennaf drwy raglen Gydweithredu Trawsffiniol Iwerddon-Cymru a Rhaglen Gogledd Orllewin Ewrop Interreg; a chadarnhaodd y mwyafrif fod cysylltiadau hirdymor wedi’u sefydlu.  Dywedodd mudiadau eu bod wedi gweithio sawl gwaith gyda Phrifysgol Bangor ac An Taisce yn Iwerddon.

 

4.  Pa gymorth sydd ar gael yng Nghymru ac mewn mannau eraill i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd cyllido yr UE ac i hwyluso cyfranogiad llwyddiannus yn rhaglenni cyllido yr UE?

 

4.1             Yng Nghymru cafodd WCVA gymorth gan yr Uned Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd yn WEFO i gyflwyno ein cais cyntaf i Interreg; ond tra oedd y tîm yn gynorthwyol ac yn frwdfrydig, ymddengys fod ei allu i gefnogi mudiadau wedi’i gyfyngu ac nid yw cwmpas ei waith yn cael ei ddeall na’i hyrwyddo yn eang.  Manteisiodd WCVA hefyd ar gymorth gan Bwynt Cyswllt Interreg yn y Deyrnas Unedig a chafodd gyngor a hyfforddiant cynorthwyol ac amserol yn ystod y cyfnod ymgeisio.

 

4.2             Ar ôl cael grant Interreg, cafodd WCVA wybodaeth a chyngor gan yr awdurdod rheoli, ond mae cysondeb a pharhad y cyngor wedi’i lesteirio gan drosiant uchel o ran staff.  Mae’r arweiniad ysgrifenedig ar gyfer Rhaglen Gogledd Orllewin Ewrop yn gyfyngedig ac yn amwys, ac yn agored i ddehongliad, gyda chyngor gwahanol ar gydymffurfiaeth a chymhwysedd yn cael ei roi gan yr awdurdod rheoli, Pwynt Cyswllt y Deyrnas Unedig a WEFO.

 

4.3             Ein sylw ni yw bod gwybodaeth a chyngor yn ymddangos yn dameidiog, gyda rolau a chyfrifoldebau aneglur o ran gwahanol agweddau ar y broses adnabod cyfleoedd, ymgeisio am gyllid ac ar ôl dyfarnu cyllid.

 

5.  Pa heriau rydych wedi’u hwynebu wrth ymgeisio am, a sicrhau, cyllid gan yr UE?

 

5.1             Dyma’r prif heriau i WCVA a’r trydydd sector:

 

·         Nid yw rhagdaliadau yn gymwys o dan Interreg, gan olygu nad oes dim cyllid sefydlu na llif arian parod yn cael ei ddarparu ar gyfer prosiectau trawswladol;

·         Mae’r cylch ôl-daliadau chwe misol yn ei gwneud yn anodd iawn rheoli llif arian parod;

·         Nid yw amser gwirfoddolwyr mewn nwyddau yn ffynhonnell gymwys o gyllid cyfatebol, gan gyfyngu ar allu’r trydydd sector i gael cyllid cyfatebol ar gyfer prosiectau (mae’n gymwys yn ein rhaglenni Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru);

·         Nid yw cyfraddau dosrannu cyfradd safonol yn cynnwys costau i fudiadau trydydd sector sy’n gweithredu model adfer costau llawn;

·         Mae haenau’r fiwrocratiaeth ac archwilio yn gymhleth ac yn gofyn gormod o amser.

 

6.  Pa fanteision/gwerth mae’ch mudiad wedi’u hennill o gymryd rhan ym mentrau yr UE?

 

6.1             Dyma’r prif fanteision i fudiadau trydydd sector:

 

·         Y cyfle i ddysgu o wahanol brofiadau a dulliau, a’r cyfle i roi cynnig ar ffyrdd newydd o wneud pethau;

·         Rhannu arbenigedd, cysyniadau a sgiliau er lles yr holl bartneriaid;

·         Galluogi pobl a chymunedau yng Nghymru i gael mynediad at wasanaethau newydd;

·         Sylw ar lefel yr UE a ffyrdd o ganfod darpar bartneriaid at y dyfodol;

·         Cyfleoedd datblygu personol a phroffesiynol i staff a buddiolwyr;

·         Meithrin gallu mudiadau a sgiliau rheoli prosiectau.

 

7.  Pa gyfleoedd rydych yn eu gweld ar gyfer Rhaglenni cyllido yr UE 2014-2020 a sut ydych yn bwriadu gweithredu ar y rhain?

 

7.1             Gan fod disgwyl i lefel Cronfeydd Strwythurol yr UE leihau yng nghyfnodau rhaglenni’r dyfodol yng Nghymru, bydd pwysigrwydd cyllid Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd yn cynyddu.  Mae WCVA yn cydnabod arwyddocâd ennill gwell ddealltwriaeth o’r ystod lawn o opsiynau cyllido, a helpu i hwyluso’r trydydd sector i gymryd rhan.

 

7.2             Mae WCVA wrthi’n ystyried y cyfleoedd canlynol ar gyfer cydweithredu tiriogaethol yng nghyfnod 2014-2020:

 

·         Erasmus+ - dysgu arlein;

·         Erasmus+ - pobl ifanc a phenderfynwyr

·         Horizon 2020 / Interreg – methodolegau cydgynhyrchu

 

8.  Beth ellid ei wneud yn fwy yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru a mudiadau cyhoeddus eraill i helpu ymgeiswyr a darpar ymgeiswyr?

 

8.1             Fel sylw mae WCVA yn deall bod yr un mudiadau, mewn nifer o achosion, yn dueddol o elwa yn fynych o ffrydiau cyllido yr UE gan eu bod wedi ennill y wybodaeth, yr arbenigedd a’r rhwydweithiau i fanteisio’n llwyddiannus ar y cyfleoedd y mae’r rhaglenni yn eu cynnig.

 

8.2             Er mwyn creu cyfranogiad ehangach yn rhaglenni cyllido yr UE, a dod â chyllid ychwanegol i Gymru, mae WCVA yn credu y gellid gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o raglenni cyllido yr UE yn rhagweithiol drwy wneud y canlynol:

 

·         Defnyddio gwefan WEFO i ddarparu gwybodaeth eang am yr ystod lawn o ffrydiau cyllido yr UE;

·         Mynd ati i ganfod a dosbarthu ceisiadau am gynigion yn eang, gan ddefnyddio cyrff cyfryngol megis WCVA er mwyn cylchredeg a thargedu’r cyfleoedd ymhellach i randdeiliaid perthnasol;

·         Ehangu Uned Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd neu Uned Horizon 2020 yn WEFO fel bod cymorth ymarferol a chyngor cyffredinol ar gael ar ystod eang o raglenni cyllido yr UE, gan gynorthwyo darpar ymgeiswyr i ganfod ffynonellau cyllido a phartneriaid perthnasol, ac atgyfeirio at y cyngor arbenigol sydd ar gael ar gyfer pob rhaglen, e.e. Pwyntiau Cyswllt y Deyrnas Unedig, awdurdodau rheoli;

·         Digwyddiad blynyddol i arddangos arferion da Cymru mewn amrywiaeth o raglenni cyllido yr UE er mwyn codi’r proffil ac ysbrydoli darpar ymgeiswyr;

·         Sicrhau bod hyfforddiant mwy strwythuredig ar gael yng Nghymru ar ffrydiau cyllido allweddol yr UE (e.e. Interreg ac Erasmus+) gan ymdrin â’r broses ymgeisio, cymhwysedd, cydymffurfio, y broses hawlio, risgiau, ac yn y blaen;

·         Sesiynau cynghori un wrth un, gan ddod â Phwyntiau Cyswllt perthnasol y Deyrnas Unedig i ddarparu cyngor arbenigol i Gymru;

·         Cyfleoedd rhwydweithio wedi’i hwyluso er mwyn cysylltu mudiadau yng Nghymru i rannu arferion da, gwersi a ddysgwyd, arbenigedd ar reoli prosiectau, ac yn y blaen;

·         Gallai gwefan WEFO gynnal porth ‘aelodau yn unig’ i ymgeiswyr llwyddiannus gadw arferion da a hybu rhwydweithio.

 

 

Judith Stone

Cydlynydd Busnes a Phartneriaethau Ewropeaidd

WCVA

30.01.14